Ynglŷn â Ni>Print Studio>Dissertation Binding
Book Binding

Rhwymo Llyfrau

Mae ein gwasanaeth rhwymo proffesiynol ar gyfer traethodau hir yn cynnwys cloriau wedi'u hargraffu sy'n cynnwys logo'r Brifysgol ochr yn ochr â'ch enw a'r teitl, a’r cyfan mewn llythrennau aur wedi'u codi. Mae ein hargraffydd UV yn sicrhau gorffeniad gwydn o ansawdd uchel ac yn caniatáu manylion cain fel arwyddair y Brifysgol. Rydym hefyd yn argraffu ar feingefn llyfrau o faint canolig a mwy.

Fel rhan o'r gwasanaeth hwn rydym hefyd yn argraffu'ch gwaith ar ein hargraffydd cynhyrchu ansawdd uchel, gan ddefnyddio papur premiwm gyda rhywfaint o raen i roi gorffeniad ardderchog.

Byddem yn eich annog i alw heibio a gweld cystal mae’r gwaith yn edrych! Neu ewch yn eich blaen ac archebwch gopi neu ddau gan ddefnyddio'n siop we.





Archebwch Eich Copi Heddiw

Gallwch archebu'ch traethawd hir eich hun wedi'i rwymo'n galed heddiw gan ddefnyddio'n siop we.

  
Dissertation Binding